CERDDED19 Gilfach gyda Dai : WALK19 Gilfach with Dai
Rwy'n 80 mlwydd oed ac yn ffermwr. Mae ffermio wedi bod yn fy ngwaed, fel fy nhad a'i dad ynte ac ati. Magu a thendo stoc, gwella'r tir, bwydo'r gymuned. Rwy'n credu mewn democratiaeth a bûm yn ymwneud â llywodraeth leol am nifer o flynyddoedd, yn cynrychioli ein pobl, ein ffordd o fyw, iaith a diwylliant. Yn fy nghwpwrdd dillad mae siwtiau smart ochr yn ochr â fy “nillad bob dydd” ar gyfer ffermio. Trwy gydol fy mywyd rwyf wedi ffermio gwartheg godro, gwartheg bîff, defaid, moch ac rwyf bob amser wedi cadw ceffylau.
Rydw i wedi hyfforddi dwsinau o gwn defaid a’r ci defaid, heb os yw ffrind gorau’r ffarmwr. Dwi’ ddim erioed wedi perchen ar feic cwad ac mae’r rhan fwyaf o fy ffermio wedi ei wneud ar droed neu gyda 4 x 4 yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Pan oeddwn i'n ifanc, tua 10 neu 12 mae'n debyg, rwy'n cofio cerdded gyda fy nhad lan i’r mynydd i grynhoi defaid. Roedd fy nhad wedi prynu'r tir, y mynydd gan deulu a oedd yn dal i fyw ar ochr y mynydd yn eu bwthyn carreg, anghysbell, bwthyn heb ddŵr na thrydan yn y tŷ, a heb hewl na lôn at y drws. Er hynny roeddent yn deulu mawr, teulu hapus. Ar y diwrnod penodol hwn, roedd yr awel yn gryf yn cario brefiadau’r defaid a chrawcian y brain ar draws y mynydd tuag at y dyffryn, gan adleisio rownd yr hen waith mwyn, segur gerllaw. Roeddwn i yn fy elfen ar y mynydd yn teimlo’r gwynt, yn gwylio’r adar yn esgyn, yn gwrando ar natur yn ei gogoniant, y nant yn canu ei ffordd i lawr y mynydd, dail y coed yn siffrwd, y da yn brefi a’r merlod mynydd yn pori’r brwyn a’r porfa corsog. Roedd fy nhad wedi cymryd llwybr arall lan y mynydd i rowndio'r defaid o gyfeiriad arall. Yn sydyn, dechreuodd y defaid grynhoi at ei gilydd yn araf i ddechrau wedyn cyflymu’n un rhes hir wen yn dilyn ei gilydd tuag at waered gerllaw. A dyna pryd y clywais i e: Llais soniarus yn taranu a chrynu dros y mynydd tua’r cwm a sŵn piano yn ddramatig yn atseinio ar draws y tir a’r cwbl yn gwau rhyw dristwch dros y mynydd, drosta i. Sefais i’n stond, ar fy mhen fy hun, wedi’n syfrdanu. Arafa don, mae gennyf frawd Yn isel huno danat ti, A phan ymweli yn dy rawd Cynhyrchi brudd-der ynof fi, Wrth wrando’th farwnadol dôn Yn trengi ar wefusau’r lan, Yng nghlust dychymyg rwyt yn sôn Am fedd na noda maen y fan. Roedd y teulu ar y mynydd wedi prynu Gramaphone a llais y tenor David Lloyd oedd yn galaru ar draws y wlad, yn hiraethu am frawd a gollwyd ar y môr. Ni fyddaf byth yn ei anghofio. Y llais, y gân, yr hiraeth a’r tir. |
I am 80 years old and I am a farmer. Farming has been my life as was my father and his father and so on. Tending stock, improving the land, feeding the community. I believe in democracy and was involved for many years in local government, representing our people, our way of life, language and culture. In my wardrobe there are dinner suits and pinstripe suits alongside my current uniform, “dillad bob dydd” or everyday clothes for farming. Throughout my life I’ve farmed dairy cows, beef cattle, sheep, pigs and I’ve always kept horses. I’ve trained dozens of sheepdogs and they’re a farmer’s best friend. I’ve never owned a quad bike in my life and most of my farming was done on foot or with a 4 x 4 in more recent years. When I was young, probably about 10 or 12, I remember walking with my father up the mountain to gather sheep. My father had bought the land, the mountain from a family who still lived on the side of the mountain in their secluded, stone cottage with no running water, no electricity and not even a dirt road to its door, yet they were a large, happy family. On this particular day, the breeze was strong carrying the bleats and squawks of sheep and crows accross the mountain towards the valley, echoing around the abandoned, desolate old lead mine nearby. I was in my element on the mountain feeling the wind, watching the birds soar, listening to nature in its glory, the stream singing its way down the mountain, the rustling leaves, cows bellowing, the soft sounds of the mountain ponies chomping the boggy grass. My father had taken another path up the mountain to round the sheep from another direction. Suddenly the sheep started gathering together, slowly at first then their pace quickening forming a long trail of sheep, running, following each other towards another patch of the mountain. And that’s when I heard it. The booming, quivering, melancholy voice and dramatic piano music echoing across the land. I stood still, alone.
Abate ye waves, a brother of mine Lies sleeping deeply beneath you, And when you visit on your travels You cause a sadness within me, As I listen to your elegiac tone As they die on the edge of the shore In my imagination, you talk Of a grave that is not marked by any stone The family had bought a Gramaphone and it was the voice of the tenor David Lloyd lamenting across the land, mourning a brother lost at sea. I’ll never forget it. |
Sound Artist & Photographer : Dwynwen Llewelyn : Artist Sain a ffotograffydd
Sound Engineer & Producer : Cheryl Beer : Peiriannydd sain a chynhyrchydd
'Arafa Don' gan David Lloyd o Gasgliad Dai
by David Lloyd from Dai's Collection
Many thanks to Nicola Dickenson for recording her cows
Diolch yn fawr i Nicola Dickenson am recordio ei buchod yn Pasture Perfect
Sound Engineer & Producer : Cheryl Beer : Peiriannydd sain a chynhyrchydd
'Arafa Don' gan David Lloyd o Gasgliad Dai
by David Lloyd from Dai's Collection
Many thanks to Nicola Dickenson for recording her cows
Diolch yn fawr i Nicola Dickenson am recordio ei buchod yn Pasture Perfect