Helo, Cheryl Beer ydw i, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr yr Orsaf Radio Ddementia-Gyfeillgar, Atgofion Sain. Dyma fi, rhwng dau o'n Gwirfoddolwyr Storïau Bywyd, Richard a Nelly, yn un o'n Digwyddiadau Adrodd Storïau Digidol yng Nghartref Gofal Cwm Aur. Yn anffodus, mae Nelly wedi marw ers hynny. Mae eu stori yn ddathliad mor hardd o'u bywyd a'u cariad. Gallwch weld eu ffilm ar ein Tudalen Storïau Bywyd.
Hanes Cychwynnwyd Atgofion Sain yn 2014 ar ffurf ‘Darlun gan Louie', sef Aseiniad Ymchwil i Ddementia ac Adrodd Storïau ar gyfer fy M.A. mewn Drama. Mewn cydweithrediad â Louise Davies, gwraig 92 mlwydd oed oedd yn byw mewn cartref gofal dementia-gyfeillgar yn Llanelli, a'i theulu a'i gofalwyr, crëwyd llyfr a llyfr llafar fel adnodd atgofion dementia-gyfeillgar iddi hi ac i eraill. Daeth Darlun gan Louie yn llwybr adrodd storïau i blant ysgol gynradd a gellir ei weld ar-lein ar wefan Casgliad y Werin Cymru yn y Gymraeg. Mae hefyd yn rhan o Adnodd Llyfrau Llafar Cenedlaethol yr RNIB.
Yn sgil y gwaith hwn, cefais wahoddiad i fod yn rhan o brosiect ymchwil ‘Bywyd Gwell’ a ariannwyd gan Joseph Rowntree ar y cyd â Phrifysgol Abertawe a'r Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gweithio mewn Cartrefi Gofal i greu 2 adnodd ychwanegol gyda phobl hŷn. Yn 2014, enillais y wobr Cyfraniad Eithriadol i'r M.A. Drama gan Brifysgol De Cymru am y gwaith hwn, ynghyd â Gwobr Aur yn yng Ngwobrau Gofal Cenedlaethol 2015. Ers hynny, mae fy ymchwil wedi tyfu'n adnodd cymunedol hardd: Radio Atgofion Sain.
Yn sgil y gwaith hwn, cefais wahoddiad i fod yn rhan o brosiect ymchwil ‘Bywyd Gwell’ a ariannwyd gan Joseph Rowntree ar y cyd â Phrifysgol Abertawe a'r Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gweithio mewn Cartrefi Gofal i greu 2 adnodd ychwanegol gyda phobl hŷn. Yn 2014, enillais y wobr Cyfraniad Eithriadol i'r M.A. Drama gan Brifysgol De Cymru am y gwaith hwn, ynghyd â Gwobr Aur yn yng Ngwobrau Gofal Cenedlaethol 2015. Ers hynny, mae fy ymchwil wedi tyfu'n adnodd cymunedol hardd: Radio Atgofion Sain.
Erbyn heddiw, mae gan ein Gorsaf Radio 500 o wrandawyr ac mae dros 40 o bobl hŷn wedi gwirfoddoli. Wrth bobl hŷn, rydyn ni'n golygu pobl dros 50 oed, ond mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o'n gwirfoddolwyr wedi bod dros 70, a'r hynaf yn 100 oed ac yn berchennog balch ar ei llythyr gan y Frenhines.
Mae'r orsaf radio yn galluogi ac yn grymuso'r bobl hŷn eu hunain i greu adnoddau dementia-gyfeillgar, gan hyrwyddo atgofion mewn ffordd gefnogol a thosturiol. Cyn Covid-19, roeddem yn cynnal digwyddiadau storïau digidol rheolaidd mewn lleoliadau yn y gymuned leol, gan wahodd y cyhoedd i ddathlu ein storïau gyda ni, a llywio ac addysgu trwy weithred ac enghraifft. Diolch i gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, rydym bellach yn arbrofi gyda'n gwaith ar-lein ac yn ehangu’r agwedd Amgylcheddol yn ein gwaith. Rydw i hefyd wedi cynrychioli Atgofion Sain mewn Digwyddiadau Cenedlaethol, Prifysgolion, Grwpiau Cymunedol ac Ysgolion fel Siaradwr Gwadd. Unwaith eto, ers Covid-19, mae hyn wedi digwydd drwy ZOOM gan amlaf.
Mae Gofal Sain yn dadadeiladu stereoteipiau negyddol ac yn ysbrydoli pobl i feddwl yn fwy cynhwysol am weithio ar y cyd ac mewn partneriaeth â phobl hŷn, yn eu bywyd bob dydd ac wrth ddyfeisio Polisi ac Arferion Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Hoffech chi wybod sut mae'n gweithio?
As Lead Artist, I recruit, visit and record interviews with older volunteers. We then edit these into digital stories with old and new photographs, sharing them here.
Fel yr Artist Arweiniol, rydw i'n recriwtio, ymweld ac yn recordio cyfweliadau gyda gwirfoddolwyr hŷn. Wedyn, rydyn ni'n golygu'r rhain ar ffurf storïau digidol gyda lluniau hen a newydd, ac yn eu rhannu yma.
Weithiau, rwy'n hyfforddi pobl eraill i gynnal y cyfweliadau. Fel arfer, y bobl hŷn eu hunain fydd y rhain, neu eu teulu ac/neu eu gofalwyr. Rydw i hefyd wedi hyfforddi plant ysgol gynradd i goladu hanesion llafar o’u cymunedau hŷn lleol ac i olygu ffilmiau digidol, a gedwir yma.
Fel y nodir uchod, rydym nawr yn arbrofi gydag ehangu'r cyfryngau cymdeithasol creadigol a chysylltu â Chartrefi Gofal drwy'r cyfryngau cymdeithasol.
Diolch i'r holl ffermwyr ac aelodau cymuned sy'n ein helpu i wneud ein hadnoddau digidol.
Rydym yn orsaf ddementia-gyfeillgar gan fod cynnwys a lefelau sain ein holl ddeunydd wedi'u seilio ar ymchwil gyda grwpiau o ddefnyddwyr i sicrhau ein bod yn rhoi ystyriaeth i'r goblygiadau iechyd sy'n ymwneud â sain, elfennau gweledol, amser canolbwyntio, hirhoedledd ac ati, er mwyn sicrhau ein bod yn hollol gynhwysol. Yn wahanol i orsafoedd eraill, mae ein storïau'n aros yma ar y wefan gan fod ein hymchwil yn dangos bod ailymweld â nhw yn dod â llawer o gysur i bobl. Mae pobl sy'n byw gyda dementia yn derbyn pob math o gefnogaeth i gymryd rhan yn y broses o wneud eu storïau eu hunain ar gyfer yr orsaf, ynghyd â'u teulu ac/neu ofalwyr, ffrindiau a chymdogion.