CERDDED19 Ciliau Aeron gyda Jean : WALK19 Ciliau Aeron with Jean
Rwy'n cofio cerdded milltir a hanner i'r ysgol bob dydd, boed law neu hindda, haul neu eira! Pan oeddwn i'n fach, roedden ni'n byw hanner ffordd rhwng Ciliau Aeron a Dihewyd. Ar y ffordd byddwn yn cwrdd â fy ffrind Ann a byddem yn stopio yn Hampton lle roedd stand laeth, lle byddent yn gadael y chyrns llaeth i’w casglu. Y stand laeth oedd ein tŷ bach twt neu ein hysgol esgus a'r chyrns llaeth fyddai'r disgyblion a byddem yn rhoi clatshys i’r chyrns pe byddent yn ddrwg! Yn 1947 wi'n cofio'r eira mawr - lluwchfeydd mor uchel â thopiau’r cloddiau, roeddwn i'n 7 oed ac roeddwn i allan yn cerdded ar ben y lluwche ond ces i fy nal gan fy mam, ces i row fowr am wneud rhywbeth mor beryglus!
Ar hyd y wâc i'r ysgol, bydden yn cwrdd â llawer o fy ffrindiau ac erbyn inni gyrraedd Ysgol Ciliau byddai llwyth ohonom! Yn aml iawn byddem yn stopio a chwarae ger Bwlch Cwm, lle byddai dŵr yn llifo a chronni - roedd yn ormod o demtasiwn i beidio â neidio, rhedeg a tasgu ynddo! Hyd yn oed pan nad oedd hi'n bwrw glaw, byddem yn cyrraedd yr ysgol yn wlyb domen a byddai'n rhaid i ni sychu o flaen y tân yn yr ysgol! Roedd gyda ni cymaint o ryddid, ro’n ni hyd yn oed yn gwneud amser i fynd am dro i lan yr afon cyn i gloch yr ysgol ganu, ond pe byddem yn clywed y chwiban trên 9am yn gadael gorsaf Ciliau am Aberaeron, roeddem yn gwybod y byddai'n rhaid i ni ‘i siapio hi a chyrraedd yr ysgol. Fe wnes i fwynhau'r ysgol gynradd, byth yn colli diwrnod, heblaw am yr un tro nad oeddwn i eisiau adrodd yn eisteddfod yr ysgol, er fy mod i wedi dysgu'r gerdd, penderfynais ei bod hi'n bwysicach aros gartref a helpu Dat ar y ffarm nag adrodd cerdd am dedi drwg! Ar y ffordd adref rwy'n cofio'r holl llygad y dydd gwyllt yn tyfu yn y cloddiau, cofio gweld a chlywed y gwartheg, y defaid a'r ceffylau ar y ffordd, ac ychydig o dan yr eglwys roedd stand llaeth fawr arall gyda bwcedi o ddŵr ar gyfer y ceffylau a fyddai'n cael eu pedoli yn yr efail ar bwys. Rwy'n cofio'r teithiau cerdded hynny yn ôl ac ymlaen i'r ysgol .... |
I remember walking a mile and a half to school every day, come rain or shine, sun or snow! When I was little, we lived halfway between Ciliau Aeron and Dihewyd. On the way I would meet my friend Ann and we’d stop at Hampton where there was a milk-stand, where they would leave the milk churns to be collected. The milk-stand was our tŷ bach twt (little house) or our make-believe school and the milk churns would be the pupils and we’d smack the churns if they were naughty! In 1947 I remember the snowdrifts as high as the hedge tops, I was 7 years old and I was out walking on top of the drifts and got caught by my mother, I had a good and proper row for doing something so dangerous!
Along the walk to school we’d meet many of my friends and by the time we reached Ciliau School there would be a tribe of us! Very often we would stop and play near Bwlch Cwm, where water would gather and stagnate – it was too much temptation not to jump, run and splash in it! Even when it wasn’t raining, we’d arrive at school soaking wet and would have to dry out in front of the fire at school! We had such freedom, we even made time to go for a walk to the riverside before the school bell rang, but if we heard the 9am train whistle leave Ciliau station for Aberaeron, we knew we’d have to shape up and get to school. I enjoyed primary school, I’d never miss it, apart from the one time I didn’t want to recite in the school eisteddfod, despite having learnt the poem, I decided it was more important to stay at home and help Dat on the farm than recite a poem about a naughty teddy! On the way home I remember all the wild daisies growing in the hedges, seeing and hearing the cows, sheep and horses and just below the church was another large milk-stand with buckets of water for the horses that would come to be shod at Tŷ Go (the Blacksmiths). I remember those walks to and from school ... |
Sound Artist & Photographer : Dwynwen Llewelyn & Cheryl Beer : Artist Sain a ffotograffydd
Sound Engineer & Producer : Cheryl Beer : Peiriannydd sain a chynhyrchydd
Sound Engineer & Producer : Cheryl Beer : Peiriannydd sain a chynhyrchydd