SOUND MEMORIES / ATGOFION SAIN
  • Home
    • Cymraeg
  • About
    • AM
  • Walk 19 Cerdded Exhibition
    • Exhibition Schedule >
      • Cymraeg
    • Sound Artist Q & A >
      • cymraeg
    • Sensory Nature Boxes
  • Life Stories
  • Nature Narratives
  • Projects
    • To Be In the Now
    • Inter Generational Radio
    • Silent Nature
    • Storytelling
  • Live News
    • NEWYDDION
  • CONNECT

​NEWYDDION
​ATGOFION SAIN

​
LANSIO ARDDANGOSFA CERDDED 19
​

Dod â'r Tu Allan, i'r Tu Mewn


​ LANSIO ARDDANGOSFA CERDDED 19


Ymunwch â'r Artist Sain Amgylcheddol Arobryn, Cheryl Beer, wrth iddi lansio Rhaglen yr Arddangosfa Atgofion Sain Ar-lein, CERDDED 19. Mae'n eich gwahodd i ddilyn ôl troed hynafgwyr wrth iddi ddod â'r tu allan i'r tu mewn trwy gyfres o Deithiau Cerdded Sain hudolus, sy'n cipio hoff leoedd pobl hŷn yn ystod y pandemig.

Darllenwch sut i hawlio eich RHODD AM DDIM – dros awr o seiniau amgylcheddol tawel, llonyddol a grynhowyd o wahanol rannau o Dde a De Orllewin Cymru gan Cheryl â'i thîm o Artistiaid Sain.

Mae Cheryl wedi bod wrthi'n ffrydio'r prosiect yn fyw i Gartrefi Gofal Dementia, a nawr mae'n eich gwahodd i wrando, ymlacio a thawelu encilion eich meddwl drwy ddod o hyd i'ch hoff leoedd chwithau.

​Cefnogwyd y cynllun yma gan arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.


Picture

Picture

​DIWEDDARIAD BYW WYTHNOSOL
​CHERYL AR FACEBOOK 

24/07/2020
Mae Cyfarwyddwr a Sylfaenydd Atgofion Sain, Cheryl Beer, yn lansio'n Facebook Byw cyntaf erioed ar Dudalen Grŵp Cyfeillion Radio Dementia-Gyfeillgar Atgofion Sain. Bydd yn rhoi diweddariadau wythnosol a chipolygon y tu ôl i'r llenni, wrth iddi baratoi ar gyfer lansio CERDDED 19 dan nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru. Dod â'r Tu Allan y Tu Mewn..
FACEBOOK ATGOFION SAIN

Picture

DIWEDDARIAD BYW WYTHNOSOL
​CHERYL AR FACEBOOK 

31/07/2020
Croeso i'n hail ddiweddariad wythnosol, sy'n cyflwyno'r tîm newydd o Artistiaid Sain a’r meysydd gwaith sy’n rhan o’u harbenigedd sain. Mae Cheryl yn eich diweddaru hefyd ar newyddion yr wythnos hon o ran ymddangos yn y Wasg Genedlaethol a chysylltu â Chartrefi Gofal ar draws De a De-orllewin Cymru.
FACEBOOK ATGOFION SAIN

Picture

DIWEDDARIAD BYW WYTHNOSOL
​ CHERYL AR FACEBOOK 

07/08/2020
Yr wythnos hon, mae Cheryl yn sôn am recordio yn y glaw ym Mharc Howard, yn disgrifio sut i ymgysylltu â chartrefi gofal, ac yn rhoi awgrymiadau ardderchog ar sut i ennyn diddordeb y gymuned trwy facebook. Mae hefyd yn rhoi cipolwg ar Gartrefi Gofal a'r sefydliadau sydd wedi cefnogi'r prosiect yr wythnos hon.
FACEBOOK ATGOFION SAIN

Picture

DIWEDDARIAD BYW WYTHNOSOL
​ CHERYL AR FACEBOOK
 

14/08/2020
Ymunwch â Cheryl wrth iddi drafod pwysigrwydd lle a hunaniaeth, y berthynas rhwng Sain a'r Hunan – a rhoi disgrifiad gonest o fanteision ac anfanteision gweithio pell yn y Sector Gofal.
FACEBOOK ATGOFION SAIN

Picture

DIWEDDARIAD BYW WYTHNOSOL
​CHERYL AR FACEBOOK 

21/08/2020
Ymunwch â Cheryl wrth iddi drafod sut mae'n ymgysylltu â Chartrefi Gofal, manteision datganiadau i'r wasg dwyieithog, ac awgrymiadau ardderchog ar gyfathrebu â'r cyfryngau. 
FACEBOOK ATGOFION SAIN

Picture
DIWEDDARIAD BYW WYTHNOSOL
​CHERYL AR FACEBO
OK ​
28/08/2020
Heddiw, mae Cheryl yn rhoi cipolwg i ni ar y ffyrdd technoleg isel mae'n eu defnyddio i frwydro yn erbyn y tywydd, ac ar ei rhwydweithio ar draws Sir Gâr – gan estyn diolch i'r asiantaethau a'r sianeli cyfryngau sy'n cefnogi Cerdded 19 ar draws y Sir. Bydd hefyd yn sôn am waith Theatr Felinfach gyda chymunedau gwledig.
FACEBOOK ATGOFION SAIN

Picture

DIWEDDARIAD BYW WYTHNOSOL
​CHERYL AR FACEBOOK 

04/09/2020
Yr wythnos hon, mae Cheryl yn trafod ei gwaith gyda'r Prosiect Cerdded 19 a noddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Achosion Da’r Loteri Genedlaethol. Mae'n disgrifio bod allan yn y maes yn llythrennol, ac yn sôn am y sefydliadau sydd wedi rhwydweithio gyda'r prosiect yr wythnos hon.
FACEBOOK ATGOFION SAIN

Picture
DIWEDDARIAD BYW WYTHNOSOL
​CHERYL AR FACEBOOK ​
11/09/2020
Mae Cheryl yn rhoi cipolwg personol ar sut mae wedi bod yn ennyn diddordeb y gymuned, ar ei hymagwedd organig at recriwtio gwirfoddolwyr, a'i rhwydweithio estynedig gyda'r rheilffyrdd drwy hanes cymdeithasol ​
FACEBOOK ATGOFION SAIN

DIWEDDARIAD BYW WYTHNOSOL
​CHERYL AR FACEBOOK 

18/09/2020
​Gwrandewch ar NEWYDDION CYFFROUS Cheryl, ei chysylltiadau hudolus ar draws y gymuned, a'i recordiadau o leoliadau gyda’r nos ym Mhen-bre, Porth Tywyn a Pharc Dŵr Y Sandy.
FACEBOOK ATGOFION SAIN

​DIWEDDARIAD BYW WYTHNOSOL
​CHERYL AR FACEBOOK 

25/09/2020
​Yr wythnos hon mae Cheryl yn dangos ei BLIMP i ni! Mae'n sôn am lansio Blychau Natur, ac ar y diwedd, mae'n rhoi syniadau am sut i drin dail yr Hydref fel y byddant yn aros yn ystwyth ar gyfer y Blychau Natur a phrosiectau crefftau.
FACEBOOK ATGOFION SAIN

​DIWEDDARIAD BYW WYTHNOSOL
​CHERYL AR FACEBOOK
 

02/10/2020
IYn y rhifyn olaf hwn o'r gyfres facebook byw tan ein harddangosfa ym mis Rhagfyr, mae Cheryl yn sôn am ei sesiynau Zoom cyntaf mewn Cartrefi Gofal, mae'n ein diweddaru ar y Blychau Natur hardd, ac mae'n siarad am ei hamser yn tracio'r penllanw.
FACEBOOK ATGOFION SAIN

BYDDWN YN CYMRYD SAIB ODDI WRTH FACEBOOK BYW ER MWYN GOLYGU'R ARDDANGOSFEYDD CERDDED 19 –
​YMUNWCH Â NI YN EIN LANSIAD YN RHAGFYR 2020

Proudly powered by Weebly
  • Home
    • Cymraeg
  • About
    • AM
  • Walk 19 Cerdded Exhibition
    • Exhibition Schedule >
      • Cymraeg
    • Sound Artist Q & A >
      • cymraeg
    • Sensory Nature Boxes
  • Life Stories
  • Nature Narratives
  • Projects
    • To Be In the Now
    • Inter Generational Radio
    • Silent Nature
    • Storytelling
  • Live News
    • NEWYDDION
  • CONNECT