WALK19 Forest Farm Nature Reserve with Barbara : CERDDED19 Fferm Fforest gyda Barbara
I first found Forest Farm when I came to Cardiff and I was walking around looking for places to visit, getting to know the area. It was always so peaceful down there. A way of just getting away from life, in a way. All you'd see would be birds and ducks of different kinds. Sometimes, there was a grey heron down there and it just used to watch me as I walked past. Every time I went, I used to wonder if it was the same grey heron that we there, or a brother or sister, little thoughts like that. Then, as my grandchildren came along, I used to go down there with them and they always enjoyed it. I haven't been down there this year, but the last time I was down there, I noticed that someone has been going down there supplying the birds with bird food in little intervals, maybe in the stump of a tree, and all you had to do was sit for a while and see what birds came along. It really was quite fascinating.
It didn't matter on the weather, there always something to see. It's much bigger than I originally thought and apart from the exercise it keeps you brain going in many ways, thinking what birds are these : robin, blackbirds off course and the various kinds of tits and the crows, off course, but you do see others, I don't have a clue what they are, but they are entertaining. And other times of the year, you see squirrels and they are always fascinating to watch, they are so fast up and down the trees, you can't follow them with your eyes. The wildlife down there is amazing and the people are interesting, too, especially down the school holidays. If you passed someone, they always spoke, pass the time of day. And if you saw someone particularly interesting you'd exchange the news, 'Ooo there's a grey heron down there, on the left as you go down, if take it easy, you'll see it,' They'd pass things on, like that. There was a hide down there, but I never found it. Maybe I will one day, but I don't think I will now, because I can't walk as far as I used to do 20 years ago. If you can, go there and enjoy it. |
Des i ar draws Fferm Fforest yn gyntaf pan symudais i Gaerdydd, ac roeddwn i’n cerdded o gwmpas yn chwilio am leoedd i ymweld â nhw, i ddod i adnabod yr ardal. Roedd mor dawel yno bob amser. Ffordd o ddianc oddi wrth fywyd, gallech ddweud. Y cyfan fyddech chi'n eu gweld oedd adar a hwyaid o wahanol fathau. Weithiau, byddai crëyr glas yno a byddai'n fy ngwylio wrth i mi gerdded heibio. Bob tro y byddwn i'n mynd yno, roeddwn i’n meddwl tybed ai’r un crëyr glas oedd yno, neu frawd neu chwaer iddo – meddyliau bach fel hyn. A phan gyrhaeddodd fy wyrion ac wyresau, byddwn i'n mynd i lawr yno gyda nhw ac roedden nhw'n mwynhau bob tro. Dwi heb fod yno eleni, ond y tro diwethaf y bues i yno, sylwais fod rhywun wedi bod yn gadael bwyd i'r adar fan hyn fan draw, mewn bôn coeden efallai. Y cyfan roedd angen i chi ei wneud oedd eistedd am ychydig a gweld pa adar fyddai'n dod yno. Roedd yn hollol gyfareddol.
Ni waeth sut mae'r tywydd, mae rhywbeth i'w weld yno bob tro. Mae llawer yn fwy nag oedden i’n meddwl i ddechrau ac, ar wahân i'r ymarfer corff, mae'n cadw'ch ymennydd yn brysur mewn llawer o ffyrdd – meddwl pa adar yw’r rhain: robin goch, mwyeilch wrth gwrs a'r gwahanol fathau o ditwod a'r brain, wrth gwrs, ond dach chi'n gweld rhai eraill hefyd, a does gen i ddim clem beth ydyn nhw, ond maen nhw'n ddifyr iawn. Ac ar adegau eraill o'r flwyddyn, dach chi'n gweld gwiwerod ac mae gwylio'r rhain yn hudolus bob amser. Maen nhw'n mynd i fyny ac i lawr y coed mor gyflym – dach chi ddim yn gallu eu dilyn â'ch llygaid. Mae'r bywyd gwyllt sydd yno'n anhygoel ac mae'r bobl yn ddiddorol hefyd, yn enwedig yn ystod gwyliau'r ysgol. Pan fyddech yn mynd heibio i rywun, bydden nhw'n siarad bob amser, yn dweud ambell air. A phan fyddech yn gweld rhywun arbennig o ddiddorol, byddech yn cyfnewid newyddion, 'Www, mae crëyr glas fan'cw, ar y chwith wrth i chi fynd i lawr. Os ewch yn dawel, byddwch yn ei weld.' Bydden nhw'n rhoi pytiau fel hyn. Roedd cuddfan yno, ond wnes i fyth dod o hyd iddo. Efallai byddaf yn gwneud rhyw ddiwrnod, ond dwi ddim yn meddwl y gwnaf bellach, oherwydd alla i ddim cerdded mor bell nawr ag 20 mlynedd yn ôl. Os gallwch, ewch yno a'i fwynhau. |
Sound Artist & Photographer : Leona Jones : Artist Sain a Ffotograffydd
Sound Engineer & Producer : Cheryl Beer : Peiriannydd Sain a Chynhyrchydd
Sound Engineer & Producer : Cheryl Beer : Peiriannydd Sain a Chynhyrchydd